Mae f'enaid gwan yr awr am ddod

1,2,3,4,(5,6,7).
(Pwy sydd genyf yn y nefoedd ond tydi, &c.)
Mae f'enaid gwan yr awr am ddod
I'r man dymunais
    ganwaith fod;
  I gael mwynhau ei gariad ef,
  Arfaethwyd cyn sylfaenu'r nef.

'Ddaw angau byth i roi i mi glwy',
Nac ofni marw i mlino mwy;
  'Ddaw tristwch,
      pechod cas na phoen
  Byth i gwmpeini'r addfwyn Oen.

Fy ffiol yma sydd yn llawn
O ddyfroedd Mara chwerwon iawn:
  Ond câf heb len
      ei weled ef,
  Wyneb yn wyneb yn y nef.

Pan adnabyddwyf iaith y wlad,
A phur ganiadau ty fy Nhad,
  Dechreuaf gân am farwol glwy'
  Na chlywir diwedd arni mwy.

Ennyned tân o gariad cu
Mewn cydsain â'r angylaidd lu;
  Na fyddo'm swydd ond hyfryd sôn,
  Am nefol rinwedd
      gwaed yr Oen.

Wrth edrych, Iesu, ar dy groes,
A meddwl dyfnder
      d'angau loes,
  Pryd hyn 'r wyf yn dibrisio'r byd
  A'r holl ogoniant sy ynddo i gyd.

'Rwi'n mofyn yn dy demi lân
Am gael dy weled fel o'r blaen;
  A bore wawr i d'wynu'n rhad
  O bur gynteddau tŷ fy Nhad.
William Williams 1717-91

Tôn [MH 8888]: Ludlow (<1829)

gwelir:
  Pan adnabyddwyf iaith y wlad
  Wrth edrych Iesu ar dy groes

(Whom have I in heaven but thee, &c.)
My weak soul now wants to come
To the place I have wished
    a hundred times to be;
  To get to enjoy his love,
  Planned before founding heaven.

Death will never come to give me a wound,
Nor the fear of death grieve me any more;
  Neither sadness, detestable sin
      nor pain shall come
  Ever to the company of the gentle Lamb.

My cup here is full
Of the very bitter waters of Mara:
  But I will get without a curtain
      to see him,
  Face to face in heaven.

When I know the language of the country,
And the pure songs of my Father's house,
  I shall start a song about a mortal wound
  Whose end shall not be heard any more.

Let a fire of dear love be kindled
In harmony with the angelic host;
  May my job be but delightfully to mention,
  About the heavenly, virtuous
      blood of the Lamb.

On looking, Jesus, on thy cross,
And thinking of the depth
    of thy throes of death,
  Then I am disdaining the world
  And all the glory that is in it altogether.

I am asking in thy holy temple
To get to see thee like before;
  And the morning dawn to shine freely
  From the pure courts of my Father's house.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~